Addoli Duw

Yng ngeiriau un credo hynafol, ein galwedigaeth gyntaf yw gogoneddu Duw a’i fwynhau. Mae addoli yn cynnwys ymgynnull i foli, gweddïo, dysgu a chyfeillachu; ond mae hefyd yn cwmpasu y cyfan o’n bywyd – y byd cudd a phersonol yn ogystal â’r byd cyhoeddus. Mae’r hyn yr ydym a’r hyn a wnawn pan fydd y drws ar gau a ninnau ar ein pen ein hun gyda Duw yn gymaint rhan o’n haddoliad â’n bywyd a’n hymddygiad mewn mannau cyhoeddus (Mathew 6:6). Addoli Duw, felly, yw cynnig ein holl fywyd a chydnabod bod popeth yn dod oddi wrth Dduw ac yn perthyn i Dduw.

O Dduw,
yma gynt ac yma nawr,
boed i mi ganfod dirgelwch dy bresenoldeb
yn yr addoliad a’r gweddïau yr wyf yn eu cynnig.
Boed i’m haddoliad a’m gweddïau
dreiddio drwof,
a thrwy’n ymgynnull,
a thrwy dawelwch yr ystafell ddirgel honno
lle’m gelwir i fod ar ben fy hun, yn un, gyda thi.
Boed i’m haddoliad a’m gweddïau
o rymu fy nghyfan oll,
pob rhan o’m bywyd, pob rhan o’m bod.
Boed i’m haddoliad a’m gweddïau lifo
o gariad sy’n dyfnhau ac o ymwybyddiaeth
o’th holl fendithion.
Yng nghariad Crist. Amen.