Caru’r byd

Mae’r Ysgrythur yn tystio i Dduw a garodd y byd gymaint nes iddo roi ei unig-anedig Fab (Ioan 3:16). Mae’r datganiad rhyfeddol hwn yn golygu bod Duw wedi ymrwymo ei hun yn llwyr i’w greadigaeth. Fe’n gelwir fel disgyblion Crist i garu’r byd fel y carodd ef – drwy weithredoedd anhunanol, a thrwy haelioni afradlon. Mae’r dasg o drawsnewid yn dasg ar gyfer yr Eglwys ar y cyd; ond mae nodyn personol i’w seinio yma hefyd, oblegid mae’n gweithredoedd bychain, dyddiol o garedigrwydd a daioni hefyd yn dyst i’n ff ydd yn Nuw. Carwn y byd drwy arddangos arwyddion y groes a’r atgyfodiad mewn ff yrdd mesuradwy a chlir.

O Dduw,
o’th gariad
anfonaist dy unig Fab i fyw yn ein plith.
Dysg imi ofalu
am y ddaear  rwythlon.
Dysg imi rannu
gyda thegwch adnoddau’r tir a’r môr.
Dysg imi fyw
mewn heddwch a thangnefedd â’m cyd-ddyn.
Dysg imi gerdded
 ordd y Groes tua’r alwad i garu fy nghymydog.
Dysg imi geisio
llwybr cyfi awnder a chynwysoldeb.
Dysg imi fod
yn wir ddisgybl gydol f’oes.
Yng nghariad Crist. Amen.